Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod llwybr cwbl groes i Lywodraeth Prydain tros aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth i fwy a mwy o Geidwadwyr amlwg gefnogi’r syniad o adael yr Undeb, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod ei lywodraeth cyn gryfed ag erioed o blaid aelodaeth.
Ar ddiwrnod Ewrop, fe ddywedodd Carwyn Jones fod tua 150,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnach gyda gwledydd eraill yr Undeb.
Roedd yna 50,000 arall, meddai, yn cael eu cyflogi gan gwmnïau o wledydd eraill yr Undeb sydd â chanolfannau yng Nghymru.
“Dw wedi ymrwymo’n gadarn i gadw Cymru’n bartner gweithgar a phositif yn yr Undeb Ewropeaidd ac i’r weledigaeth yr ’yn ni’n ei rhannu am ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy.”
Cefndir
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi addo cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd os bydd yn ennill yr etholiad nesa’.
Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae Ceidwadwyr amlwg, gan gynnwys y cyn Ganghellor, Nigel Lawson, wedi cyhoeddi eu bod o blaid gadael.
Mae rhai ASau Cymreig, fel Glyn Davies, Aelod Seneddol Maldwyn, wedi awgrymu eu bod nhwthau’n cytuno.