Mae cannoedd o fenywod a gafodd fewnblaniadau diffygiol yn eu bronnau wedi ymgasglu mewn llys yn Ffrainc ar gyfer achos pump gŵr busnes.

Mae’r pump, o gwmni Poly Implant Prothèse (PIP), yn cael eu cyhuddo yn y llys ym Marseille o ddefnyddio silicon diwydiannol mewn mewnblaniadau bronnau. Yn eu plith mae Jean-Claude Mas, sylfaenydd y cwmni.

Mae swyddogion yn dweud fod peryg i’r mewnblaniadau rwygo neu ollwng.

Cafodd 125,000 o fenywod ar draws y byd y mewnblaniadau hyn tan i’r gwerthiant ddod i ben ym mis Mawrth 2010. Roedd 42,000 ohonyn nhw ym Mhrydain a thua 1,000 yng Nghymru.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig tynnu’r mewnblaniadau a rhoi rhai yn eu lle, ar gost y trethdalwr.

Camgymeriadau

Mae 5,000 o fenywod wedi eu nodi fel dioddefwyr yn yr achos ac yn dweud fod gwŷr busnes PIP wedi eu camarwain nhw i feddwl fod y mewnblaniadau yn ddiogel.

Mae Nathalie De Michel, a gafodd fewnblaniad, eisiau gweld Jean-Claude Mas yn cydnabod cyfrifoldeb.

“Rydym ni’n cael yr argraff nad yw e’n poeni. Rwy eisiau iddo gydnabod o leiaf ei fod wedi gwneud camgymeriadau,” meddai.

Roedd mwyafrif helaeth y mewnblaniadau am resymau gweledol, tra bod lleiafrif er mwyn ailadeiladu’r fron ar ôl triniaeth ganser.