Cludo'r arch o'r Gadeirlan
Daeth miloedd o bobl ynghyd ar strydoedd Llundain ar gyfer angladd y Farwnes Thatcher yng Nghadeirlan Sant Paul heddiw.
Roedd nifer o arweinwyr gwleidyddol y byd yn bresennol yn y gwasanaeth, yn ogystal â’r Frenhines a chyn-Brif Weinidogion.
Cafodd ei harch ei chludo ar gerbyd gynnau wedi’i dynnu gan geffylau trwy strydoedd Llundain cyn cyrraedd y Gadeirlan am 11am.
Yn ystod y gwasanaeth, cyfeiriodd Esgob Llundain, Richard Chartres at “ddyfalbarhad” Margaret Thatcher mewn cyfnodau o “straffagl a dewrder”.
Roedd nifer o gyn-aelodau Cabinet Margaret Thatcher yn bresennol yn y gwasanaeth, gan gynnwys yr Arglwydd Howe a’r Arglwydd Heseltine, yn ogystal â phob aelod o’r Cabinet presennol.
Darllenodd y Prif Weinidog, David Cameron ddarn allan o Efengyl San Ioan.
Roedd yr arch wedi’i gorchuddio â baner yr Undeb, a rhosod gwynion ar ei phen.
Roedd carden ar y blodau gan ei phlant, Mark a Carol, yn dwyn y neges “Beloved Mother – Always in our Hearts”.
Cerddodd ei hwyr, Michael a’i hwyres, Amanda o flaen yr arch ar ei ffordd i’r Gadeirlan.
Cafodd yr emynau “He who would valliant be”, “Love Divine” ac “I vow to thee my country” eu canu yn ystod y gwasanaeth.
Dywedodd David Cameron bod yr achlysur yn “deyrnged addas” ar gyfer ffigwr mor allweddol.
‘Un ohonon ni’
Doedd dim sôn am yrfa wleidyddol y Farwnes Thatcher yn anerchiad Esgob Llundain, gan gyfeirio yn hytrach at yr angladd fel cyfle i dalu teyrnged i Margaret Thatcher fel person, fel mam ac fel mam-gu.
Dywedodd ei bod hi, “wrth orffwys yma, yn un ohonon ni, yn ddarostyngedig i ffawd cyffredin pob bod dynol”.
Ond roedd protestwyr ar y strydoedd y tu allan i’r Gadeirlan, yn arwydd o’r ffordd y gwnaeth ei theyrnasiad hollti barn y cyhoedd.
Hwn oedd y gwasanaeth angladdol mwyaf ers angladd y Fam Frenhines yn 2002.
Presenoldeb o Gymru
Roedd aelodau o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig ymhlith y milwyr oedd yn cludo’r arch, ac roedd cyn-aelodau’r Bataliwn oedd wedi gwasanaethu yn y Malfinas ar y strydoedd wrth i arch y Farwnes Thatcher fynd heibio.
Roedd nifer o wleidyddion blaenllaw o Gymru ymhlith y galarwyr yn y Gadeirlan, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler ac Ysgrifennydd Cymru, David Jones.
Roedd y cantoresau Cymreig, Katherine Jenkins a’r Fonesig Shirley Bassey yn y gwasanaeth hefyd.
Derbyniad
Ar hyn o bryd mae gwesteion wedi dod at ei gilydd mewn derbyniad yn Neuadd y Ddinas Llundain.
Mae disgwyl i 1,600 fod yn bresennol yn y derbyniad.
Mae derbyniad arall yn cael ei gynnal yn Mansion House ger Neuadd y Ddinas, a hwnnw ar gyfer cynrychiolwyr o wledydd tramor.
Mae plant y Farwnes Thatcher, Mark a Carol yn bresennol yn Neuadd y Ddinas.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron a’i wraig Samantha, a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a’i wraig Miriam hefyd yno.