Lee-Anna Shiers fu farw yn y tan
Roedd dynes a fu farw mewn tân, ynghyd â phedwar aelod arall o’i theulu ym Mhrestatyn, wedi bod ofn ei chymydog sydd wedi ei chyhuddo o gynnau’r tân, clywodd llys heddiw.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei nai Bailey, 4, a’i nith Skye, 2, yn y tan yn eu fflat ym Maes y Groes, Prestatyn ar 19 Hydref y llynedd.

Fe lwyddodd diffoddwyr tan i achub mab Lee-Anna Shiers, Charlie, oedd yn 15 mis oed, a’i phartner Liam Timbrell, 23, ond bu farw’r ddau yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae Melanie Smith, 43, oedd yn  byw yn y fflat islaw, wedi ei chyhuddo o gynnau’r tân yn fwriadol am ei bod yn anhapus bod Lee-Anna Shiers wedi gadael cadair wthio yn y cyntedd roedden nhw’n ei rannu.

Mae hi wedi gwadu pum cyhuddiad o lofruddio yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Wrth roi tystiolaeth heddiw, dywedd Jay Liptrot, perchennog y fflatiau, bod Smith wedi ei ffonio ar 1 Medi  yn gofyn iddo ddod draw oherwydd bod “ffrae fawr” wedi digwydd yn y tŷ.

Pan gyrhaeddodd, meddai, roedd Smith wedi meddwi ac yn gweiddi ar Lee-Anna Shiers a dynes arall oedd gyda hi.

Dywedodd wrth Smith y byddai’n well iddi adael y fflat a dywedodd hi ei bod hi am adael beth bynnag.

Pan aeth Jay Liptrot i siarad gyda Lee-Anna Shiers dywedodd bod ganddi ofn Smith a’i bod yn anhapus gyda’r dadleuon cyson.

Mae’r achos yn parhau.