Mae’r archfarchnad Tesco wedi rhoi’r gorau i gynlluniau i ddatblygu mwy na 100 o siopau newydd, gan benderfynu canolbwyntio ar fasnachu ar-lein.

Dywedodd fod y dyddiau o lwyddiant yn y 1990au trwy adeiladu siopau newydd ar ben, a bod y pwyslais erbyn hyn ar lwyddo ar y we.

Daw’r datganiad ar ôl i’r cwmni gyhoeddi gostyngiad yn ei  elw blynyddol am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Cwympodd yr elw’r llynedd o 51.5% i £1.96 biliwn.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ei fwriad i werthu ei fusnes Fresh & Easy yn yr Unol Daleithiau yn dilyn methiant y siopau yno.

Gallai hynny gael effaith gwerth £1.2 biliwn ar y cwmni.

Dywedodd yr arbenigwr manwerthu, Philip Dorgan fod y tro pedol ar ddatblygu siopau’n “gam strategol i’w groesawu”.

Fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn golygu na fydd cynlluniau ar gyfer nifer o’u siopau mawr Tesco Extra bellach yn cael eu datblygu, ond dydyn nhw ddim wedi dweud pa safleoedd fydd yn cael eu heffeithio.

Dywedodd Prif Weithredwr Tesco, Philip Clarke: “Mae’r siopau mawr sydd gyda ni yn wych ac rydyn ni’n gwneud tipyn o waith i’w gwneud nhw’n fwy bywiog ac yn berthnasol i gwsmeriaid heddiw, ond fydd dim angen rhagor ohonyn nhw oherwydd bydd twf yn y dyfodol yn aml-lwyfan – yn gyfuniad o siopau mawr, siopau cyfleus lleol ac ar-lein.”

Dywedodd y bydd yn canolbwyntio mwy ar siopau cyfleus Tesco Express a One Stop.

Mae gwerthiant ar-lein y cwmni wedi cyrraedd £3 biliwn eisoes eleni.

Dywedodd Philip Clarke fod y cwmni yn gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn sicrhau bod siopwyr yn parhau i ddod i’r siopau traddodiadol.

Ond dywedodd fod y sgandal cig ceffyl wedi cael effaith ar werthiant y cwmni dros y misoedd diwethaf.

Bu’n rhaid iddyn nhw dynnu pedwar math o gynnyrch oddi ar y silffoedd yn ystod yr helynt.