Margaret Thatcher
Mae gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, wedi amddiffyn y gwariant ar angladd y Farwnes Thatcher, sy’n cael ei gynnal bore ma, gan ddweud y bydd yn costio “llawer, llawer llai” na’r £10 miliwn sydd wedi cael ei awgrymu.

Dywedodd Francis Maude, sydd wedi bod yn goruchwylio’r trefniadau ar gyfer yr angladd, y byddai’r wladwriaeth bob amser yn talu costau angladd a gwasanaeth coffa ar gyfer cyn brif weinidog. Ychwanegodd y byddai teulu’r Farwnes Thatcher yn cyfrannu tuag at y gost, a bod hynny’n anarferol ond dyna oedd dymuniad y teulu, meddai.

Wrth siarad â rhaglen Daybreak ar ITV, dywedodd Francis Maude bod Margaret Thatcher wedi gwneud “cyfraniad enfawr” a’i fod yn briodol bod hynny’n cael ei gydnabod.

Ond dywedodd Diane Abbott o’r Blaid Lafur y byddai trethdalwyr yn ei chael hi’n anodd deall pam bod arian yn cael ei wario ar angladd y Farwnes tra bod toriadau mewn gwariant cyhoeddus a budd-daliadau.

Dywedodd David Cameron ei fod wedi trafod trefniadau’r angladd gydag arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg a’u bod nhw wedi bod yn gytûn bod angen nodi ei chyfraniad yn y modd yma.