Mae nifer y di-waith yn y DU wedi cynyddu 70,000 i 2.56 miliwn gyda chynnydd yn nifer y bobl ifainc sy’n ddi-waith a rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn.

Dyma’r ffigwr gwaethaf ers yr haf y llynedd, gyda nifer y di-waith yn y DU yn 7.9%.

Ond yng Nghymru fe fu gostyngiad o 3,000 yn nifer y di-waith i 120,000 sef 8.2% o’r boblogaeth.

Mae’r ffigurau heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwaldol (ONS) yn datgelu bod 900,000 o bobl wedi bod allan o waith am fwy na blwyddyn, cynnydd o 8,000 yn y tri mis hyd at fis Tachwedd. Bu cynnydd o 20,000 hefyd yn nifer y bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy’n ddi-waith, i 979,000.

Roedd ’na ostyngiad o 7,000 yn nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra fis diwethaf i 1.53 miliwn.

Er gwaetha’r cynnydd yn nifer y di-waith heddiw, mae’r cyfanswm 71,000 yn llai na blwyddyn yn ôl.

Nid da lle gellir gwell medd Ysgrifennydd Cymru

Mae Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi croesawu’r cwymp bychan mewn diweithdra ond wedi rhybuddio nad yw hi’n hawdd ar y farchnad lafur.

“Dim ond wythnos ddiwethaf y caeodd Welsh Country Foods ym Môn gyda cholled o 350 o swyddi,” meddai.

“Mae hyn yn cadarnhau’r angen i fod yn wyliadwrus ac i lywodraethau gydweithio er mwyn cynnal a chreu gwaith yng Nghymru.”

Mae 700 yn llai o bobol ifanc yn ddi-waith yn ystod y chwarter diwethaf ond dywed David Jones fod angen “gwneud mwy” i wella sefyllfa diweithdra ymhlith yr ifanc.

Dywedodd fod codi trothwy treth incwm i £10,000 yn mynd i gael “effaith sylweddol ar economi Cymru achos bydd yn cefnogi cyflogaeth ac yn hybu gallu pobol i wario.”

Mae’r AC Ceidwadol Nick Ramsay wedi dweud fod twf economaidd Cymru yn parhau’n fregus ac anogodd Weinidogion Llafur Llywodraeth Cymru i wella mewnfuddsoddiad, isadeiledd a chefnogaeth i fusnesau bach.

‘Dechrau tuedd, nid cwymp unigryw’

Mae llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Eluned Parrott, wedi dweud fod angen i lywodraethau Cymru a Phrydain gydweithio er mwyn sicrhau “nad cwymp unigryw yw hwn, ond dechrau tuedd.”

Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â diweithdra ymhlith yr ifanc ac effaith niweidiol diweithdra tymor hir.