Mae cannoedd o ddisgyblion yn cael eu brechu yn eu hysgol o heddiw ymlaen mewn ymgais i roi stop ar y frech goch rhag lledaenu yn ardal Abertawe.
Mae nyrsys yn ymweld â phedair ysgol o fewn sir Abertawe – Yr Esgob Vaughan, Yr Esgob Gore, Llandeilo Ferwallt, a Threforys – ac un, Ysgol Cwmtawe, o fewn sir Castell Nedd Port Talbot.
Ac mae deg ysgol uwchradd wedi eu hychwanegu at y rhaglen frechu yn siroedd Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot. Wythnos nesaf fe fydd timau o nyrsys yn cynnal clinigau yn ysgolion cyfun Tre-Gŵyr, Cwrt Sart, Dŵr-y-Felin, Pontarddulais, Gellifedw, Cefn Saeson, Penyrheol, Sandfields, Llangatwg a Chefn Hengoed.
Mae gan yr ysgolion nifer uchel o ddisgyblion sydd heb gael brechiad MMR medd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, ac mae rhieni plant sydd heb gael brechiad yn ôl y cofnodion wedi derbyn llythyr i’w hatgoffa.
Mae’r awdurdodau iechyd yn pryderu fod nifer o bobol ifanc yn eu harddegau heb gael brechiad rhag y frech goch ac y gall y frech ledaenu ymhellach yng Nghymru.
Clinigau eto dros y penwythnos
Dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Sara Hayes:
“Mae’r frech goch yn haint ofnadwy ac mae nifer yr achosion yn parhau i gynyddu, gyda 765 o achosion hyd yma. Mae plant a phobol ifanc sydd heb eu diogelu gydag MMR mewn peryg go iawn o ddal y frech.”
Mae’r bwrdd iechyd yn cynnal clinigau arbennig dydd Sadwrn yma am y trydydd penwythnos yn olynol. Mae’r clinigau – rhwng 10 a 4 o’r gloch yn ysbytai Treforys, Singleton, Tywysoges Cymru Penybont, a Chastell Nedd Port Talbot – wedi brechu 3,500 o blant dros y ddau benwythnos diwethaf.