Fe fydd banciau Cyprus yn aros ar gau yfory a dydd Gwener, wrth i’r wlad geisio adfer ei heconomi.

Fe fydd y  banciau yn aros ar gau tan o leiaf ddydd Mawrth wythnos nesaf  oherwydd eu bod nhw’n ofni y bydd pobol yn tynnu eu harian allan o’u cyfrifon.

Heddiw, bu’r cabinet yn cynnal cyfarfod brys i drafod y camau nesaf ar ol i wleidyddion wrthod cynnig gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol i achub yr economi ddoe.

Mae Gweinidog Cyllid Cyprus, Michalis Sarris wedi teithio i Moscow i geisio cymorth gan lywodraeth Rwsia, sy’n buddsoddi’n helaeth ar yr ynys.

Bydd y trafodaethau’n parhau yfory.

Mae’n Ŵyl y Banc arferol yng Nghyprus ddydd Llun, ac mae’n debyg na fydd y banciau’n agor tan ddydd Mawrth.

Bydd y banciau a’r Gyfnewidfa Stoc yn aros ar gau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cafodd awyren oedd yn cludo 1 miliwn Ewro o Brydain ei anfon i Cyprus ddoe er mwyn helpu milwyr Prydeinig sy’n gwasanaethu’r lluoedd arfog ar yr ynys.

Byddan nhw’n derbyn benthyciadau brys rhag ofn na fyddan nhw’n gallu tynnu arian allan o’u cyfrifon gan ddefnyddio cerdyn debyd.