Damian Lewis gyda'r actores Claire Danes yn cipio gwobr Emmy am Homeland
Ar y diwrnod y derbyniodd yr actor Damian Lewis ryddid dinas Llundain, cyhoeddodd ei fod yn cefnogi tîm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.

Dywedodd yr actor, sy’n byw yn Llundain ond sydd o dras Gymreig, ei fod yn falch o’i wreiddiau.

“Mae gyda ni gyswllt Cymreig cryf yn ein teulu ni. Ry’n ni’n jocan mai Cymry Llundain ydyn ni.”

Mae ei wraig, yr actores Helen McCrory hefyd o dras Gymreig.

Dywedodd Damian Lewis: “Mae gyda ni dŷ yng Nghymru, ac rydyn ni’n cefnogi tîm rygbi Cymru.

“Mewn gwirionedd, ro’n i’n cefnogi tîm rygbi Cymru ddydd Sadwrn, sy’n deillio o pan o’n i’n blentyn.”

Enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn diwethaf, ar ôl curo Lloegr o 30-3 wrth iddyn nhw anelu am y Gamp Lawn.