Kate Roberts
Fe fydd Cadw yn cymryd gofal o gartref yr awdures Kate Roberts yn Rhosgadfan.
Ymddiriedolaeth Cae’r Gors sy’n gofalu am y tŷ ar hyn o bryd, ac yn trefnu gweithgareddau yn y Ganolfan.
Ond o dan y trefniant newydd, fe fydd y tŷ yn nwylo Cadw.
Daeth yr arian loteri ar gyfer y safle i ben ddwy flynedd yn ôl, ac mae’r wasgfa ariannol yn golygu bod yr Ymddiriedolaeth wedi bod o dan gryn bwysau.
Bu Cadw, Cyngor Sir Gwynedd, Prifysgol Bangor a’r Amgueddfa Genedlaethol mewn trafodaethau ers rhai misoedd am ddyfodol y Ganolfan.
‘Pwysau ariannol’
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cae’r Gors, Norman Williams wrth Golwg360: “Mae Cadw wedi cynnig cymryd gofal o’r safle i gyd, fydd yn tynnu’r pwysau ariannol oddi arnon ni. Roedden ni am osgoi prinder arian.
“Fe fydd Cadw yn diogelu’r tŷ ond maen nhw’n awyddus i weld gweithgarwch y Ganolfan yn parhau.”
Pwyllgor y Ganolfan sy’n penderfynu pa weithgareddau sy’n cael eu cynnal yno, ac maen nhw’n cynnal dosbarthiadau cynganeddu ac amryw ddarlithoedd.
O dan y trefniant newydd, fe fydd Pwyllgor Cae’r Gors yn parhau i weithredu’n annibynnol.
Ychwanegodd Norman Williams: “Mae’r gweithdai i ysgolion wedi bod yn arbennig o lwyddiannus dros y blynyddoedd.
“Dydan ni ddim yn gweld y trefniant newydd yn fygythiad i Gae’r Gors – rydan ni’n ei weld o fel cam pwysig ymlaen.
“Rydan ni’n awyddus i gario ymlaen efo’r creadigrwydd ond fe fydd yn tynnu’r baich ariannol oddi wrthan ni.
“A gobeithio hefyd y daw to newydd o wirfoddolwyr ifanc yn sgil y datblygiadau.”
‘Mudiad cwbl afiach’
Dywedodd Geraint Jones o Ganolfan Treftadaeth Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr: “Rwy’n synnu braidd. Hyd y gwn i, does dim digwyddiadau wedi’u cynnal yno ers haf diwethaf, a sgwrs gan Alan Llwyd am ei lyfr am Kate Roberts oedd hwnnw.
“Mae’r safle’n mynd i ddwylo mudiad cwbl afiach sy’n fwriadol ladd unrhyw wladgarwch Cymreig.
“Prin iawn ydy’r sylw gan Gadw i’r cestyll Cymreig, ond maen nhw o hyd yn hybu’r cestyll Normanaidd.
“Does ond angen i chi edrych ar Gastell y Bere, lle mae’r Saesneg yn llawer mwy amlwg na’r Gymraeg ar yr arwyddion.”