Mae newyddiadurwyr a staff technegol y BBC wedi pleidleisio o blaid cynnal streic, fe gyhoeddodd undebau’r NUJ a Bectu heddiw.

Mae’r streic yn ymateb i fwriad y gorfforaeth i wneud toriadau a fydd yn arwain at golli 2,000 o swyddi.

Fe rybuddiodd yr undebau bod swyddi ac amodau gwaith yn cael eu heffeithio gan y broses ‘Cyflwyno Ansawdd yn Gyntaf’.

Mae ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ Michelle Stanistreet wedi cyhuddo’r BBC o wrthod gohirio gwneud toriadau am chwe mis fel bod trafodaethau’n cael eu cynnal.

Bu aelodau’r NUJ yn cynnal streic fis diwethaf dros ddiswyddiadau gorfodol gan effeithio nifer o raglenni teledu a radio.