Mae S4C wedi penodi cyn-brif swyddog cyllid gydag Universal Music UK yn Bennaeth Datblygu Masnachol y sianel.
Daw David Bryant o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd a, than yn ddiweddar, roedd ganddo swydd ymgynghorol gyda SONY Music Entertainment UK.
Mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Mae ei swydd o fewn S4C Masnachol yn un newydd a’i fwriad, medd y sianel, yw gweld cyfleoedd i fuddsoddi a gweithio ar brosiectau masnachol mewn partneriaeth â chwmnïau eraill.
‘Her fawr’
Dywedodd David Bryant ei fod yn falch o ymuno gydag S4C “ar adeg pan fod y sefydliad yn amlwg ar i fyny.”
“Mae’r ffordd rydyn ni’n gwylio teledu yn newid yn gyfan gwbl, ac felly mae nifer o gyfleoedd masnachol cyffrous ar gael sy’n deillio o’r gwasanaethau mae S4C yn ei gynnig, ar y sgrin ac ar y we.
“Mae fy mhrofiad ym musnes cerddoriaeth wedi cryfhau fy marn y dylwn ni groesawu ac achub ar y cyfle i newid – bydd hwn yn her fawr ond mae’n un dwi’n edrych ymlaen ato gyda thîm S4C.”
‘Pwyslais ar gyfleoedd masnachol S4C’
Yn ôl Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris, mae’r sianel yn rhoi pwyslais mawr eleni ar “ymchwilio i gyfleoedd masnachol posib a fydd yn gwella profiad ein cynulleidfaoedd ac yn dod ag elw i’r sianel.”
“Er mwyn cyflawni’r nodau hynny bydd angen i ni ddefnyddio arbenigedd a phrofiad go iawn, a dyna beth mae David yn dod gydag ef.”