Mae’r canwr pop o Dde Corea, PSY, sy’n enwog am ei gân Gangnam Style, wedi dweud y bydd yn newid teitl a rhai geiriau ei gân newydd yn dilyn pryderon y gall ddigio Arabiaid.
Teitl y gân newydd yw Assarabia neu Assaravia yn Saesneg – sef gair slang sy’n cael ei ddefnyddio yn Ne Corea i fynegi gwefr a chyffro. Nid oes unrhyw awgrymiadau am ethnigrwydd na rhannau o’r corff yn y gân, ond mae rhai wedi mynegi pryderon y gall Arabiaid gamddehongli’r teitl.
Dywedodd PSY ar wefan gymdeithasol yn Ne Corea ei fod wedi penderfynu newid y teitl. Fe fydd rhai o’r geiriau hefyd yn newid.
Mae PSY wedi addo y bydd yn gwneud mwy o waith yn Saesneg ond does dim cadarnhad pryd y bydd hynny’n digwydd.
Mae ei fideo Gangnam Style wedi cael ei weld 1.44 biliwn o weithiau ar YouTube ers mis Gorffennaf.