Uhuru Kenyatta
Mae’n edrych yn debyg mai Uhuru Kenyatta, Dirprwy Prif Weinidog Kenya, sydd wedi ennill yr etholiad arlywyddol yn y wlad.

Llwyddodd i ennill o drwch blewyn gan ennill 50.03% o’r bleidlais gan osgoi, felly, o 4,109 o bleidleisiau yn unig, yr angen i gynnal ail rownd o bleidleisio.

Mae disgwyl i fuddugoliaeth Kenyatta cael ei gadarnhau’n swyddogol yn ddiweddarach heddiw.

Mae Uhuru Kenyatta wedi cael ei gyhuddo o droseddau yn erbyn dynoliaeth ar ôl yr etholiad blaenorol yn y wlad yn 2007 pan gafodd mwy na 1,0000 o bobol eu lladd. Mae’n wynebu achos yn y Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hague ym mis Gorffennaf.

Mi gafodd system electroneg newydd ei ddefnyddio ar gyfer yr etholiad y tro hwn ond fe gafwyd rhai problemau technegol yn ystod y cyfri.

Gwrthwynebydd Kenyatta yn yr etholiad oedd y Prif Weinidog presennol, Raila Odinga. Mae wedi dweud eisoes y bydd yn mynd i’r llys i herio’r canlyniad os yw buddugoliaeth Kenyatta yn cael ei chadarnhau’n swyddogol.