Abu Qatada Llun: PA
Mae’r pregethwr radical Abu Qatada wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau ei fod wedi torri amodau ei fechnïaeth.
Mae’r arestio wedi digwydd ychydig ddyddiau cyn i’r Llywodraeth ymdrechu unwaith eto yn y llys i gael alltudio Qatada o’r Deyrnas Unedig.
Bydd apêl y Llywodraeth yn erbyn penderfyniad barnwr i adael i Qatada aros yn y Deyrnas Unedig yn cael ei glywed y Llys yr Apêl ddydd Llun.
Arestiwyd Qatada dydd Gwener yn dilyn cyrchoedd gan uned Gwrth Derfysgaeth yr Heddlu Metropolitan.