Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei benodi.
Mae Simon Prince yn 47 oed ac ar hyn o bryd yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Gwent.
Cafodd ei benodi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Christopher Salmon, y cyntaf i gael ei benodi gan Gomisiynydd Heddlu yng Nghymru.
Bydd Simon Prince yn dechrau ei swydd newydd ar Ebrill y 1af.
Dywedodd ei fod yn falch iawn o gael ei apwyntio’n Brif Gwnstabl. Roedd yn barod ar gyfer y sialens, meddai, ar ôl magu profiad dros ei 22 mlynedd gyda Heddlu Gwent.
“Mi wnâi roi’r cyhoedd gyntaf gan sicrhau y bydd ein staff i gyd yn cynnig gwasanaeth ardderchog,” meddai.