Gareth Miles, un o'r siaradwyr heddiw
Bydd plac arbennig yn cael ei ddadorchuddio ym Mhontarddulais heddiw, i goffáu sefydlu Cymdeithas yr Iaith yno dros hanner can mlynedd yn ôl.
Bydd Cadeirydd presennol y mudiad iaith, Robin Farrar, yn annerch yn y digwyddiad, ynghyd ag un o sylfaenwyr y Gymdeithas, Gareth Miles a’r cynghorydd tref Eifion Davies.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais ddydd Sadwrn, Awst 4, 1962. Roedd yn ymateb i rybudd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn gan Saunders Lewis y byddai’r iaith Gymraeg yn marw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif oni bai bod dulliau chwyldroadol yn cael eu mabwysiadu.
Bydd gohebydd Golwg360 yn y digwyddiad bore ’ma ac mi fyddwn ni’n cyhoeddi adroddiad mwy manwl am yr hyn ddigwyddodd yn ddiweddarach heddiw.