Mae gweithwyr wrthi’n ceisio atal carthion rhag llifo i mewn i afon y Rhondda Fawr.
Mae swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru ar y safle yn Llwynypia er mwyn gwneud gwaith brys, ar ôl i wal gwympo ar ben system garthffosiaeth ger yr afon.
Yr wythnos diwethaf, roedd yr Asiantaeth wedi bod yn gwneud gwaith brys er mwyn lleihau’r risg o lifogydd yn yr ardal yn dilyn tirlithriad.
Roedd 200 o dai mewn perygl yn dilyn y digwyddiad hwnnw.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: “Mae oddeutu 1.5km o’r afon wedi’i effeithio gan y gollyngiad ac mae’n ymddangos bod y lliw yn newid oherwydd y carthion.
“Rydyn ni’n cadw llygad barcud ar ansawdd y dŵr ond hyd yma, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw arwyddion bod pysgod mewn trafferthion.
“Byddwn ni’n parhau i fod ar y safle ac yn monitro’r afon nes ein bod ni’n sicr bod y gwaith atgyweirio ar ben a bod y gollyngiad wedi dod i ben.”