Mae terfynell newydd ym maes awyr Penarlag ar fin cael ei gorffen yn ôl adeiladwyr, gan olygu y gall teithwyr fod yn hedfan o’r maes erbyn haf 2013.

Bydd y derfynell newydd ym Mhenarlâg yn dal 100 o deithwyr, mewn gobaith bydd niferoedd isel o deithwyr yn golygu llai o wastraff amser wrth deithio.

Bwriad y maes yw denu cwmnïau teithio bychain, i gynnal teithiau i 50 o bobol neu lai i lefydd fel Caerdydd ac Ynys Manaw.  Os yn llwyddiannus, gall y maes gynnal teithiau ymhellach, i fannau arall yn y DU.

Ond, er hynny, mae’r rheolwyr wedi cadarnhau nad ydynt yn chwilio am gwmnïau teithio mawr sy’n ceisio cynnig teithiau rhad iawn.

Mewn datganiad, dywedodd cynrychiolwr bod maes awyr Penarlag yn gobeithio cynnig profiad gwahanol i deithwyr.

“Rydyn ni’n teimlo y gall y maes awyr roi dewis arall i deithwyr i allu osgoi meysydd Manceinion a Lerpwl – sy’n delio hefo teithiau prysurach a chwmnïau llawer mwy.  Nid ydyn ni mewn cystadleuaeth hefo’r meysydd yma, gan ein bod yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i deithwyr.”

Os bydd y maes awyr yn cynnig teithiau i Gaerdydd, bydd yn cystadlu hefo maes awyr Ynys Môn, lle mae cwmni CityWing yn cynnig teithiau i’r brifddinas yn ystod yr wythnos.

Dywed maes awyr Penarlag eu bod yn gobeithio cynnal “dwy neu dair” taith ychwanegol bob dydd, a fyddai’n gweld y maes yn cystadlu yn uniongyrchol hefo CityWing a maes awyr Valley.

Mae Golwg360 wedi gofyn i CityWing am ymateb.