Mae pedwar o bobl ddi-waith ar gyfer pob un swydd yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ymchwil gan Unsain, yn y Cymoedd mae’r nifer uchaf o ymgeiswyr am bob swydd.

Ym Mlaenau Gwent, mae cyfartaledd o 11.5 o ymgeiswyr am bob swydd, tra bod 6.9 o ymgeiswyr ar gyfer pob swydd yng Nghaerffili.

Mae’r lefel ychydig yn is yn Nhorfaen (5.8 am bob swydd).

Strategaeth

Mae Unsain wedi galw am greu strategaeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol Unsain, Margaret Thomas: “Mae graddfa’r argyfwng swyddi parhaus yng Nghymru yn bryderus dros ben.

“Tair blynedd hir o doriadau – gyda rhagor i ddod – ac o hyd, does dim digon o swyddi i bawb.

“Mae’r llywodraeth wedi gwneud camgymeriad gyda’r wasgfa ac wedi amddifadu ein hadferiad.

“Yn ogystal â gwastraffu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae toriadau wedi sathru ar y sector preifat.”

“Mae gan y llywodraeth ddewis. Defnyddio’r gyllideb i amlinellu strategaeth gref ar gyfer swyddi a thyfiant. Gwneud i bobol deimlo’n ddiogel yn eu swyddi ac maen nhw’n fwy tebygol o wario.

“Rhoi codiad cyflog go dda i weithwyr y sector cyhoeddus a bydd rhagor o arian yn mynd trwy diliau mewn siopau a busnesau lleol, gan helpu ein strydoedd mawr yn eu trafferthion.

“Y peth mwyaf niweidiol y gallai’r llywodraeth ei wneud yw palu ymlaen yn ddiofal gyda’i strategaeth doriadau wrth-dyfiant, ddi-obaith.”