Mae disgwyl i’r broses o ethol Pab newydd ddechrau’r wythnos nesaf.
Mae’r 115 o gardinaliaid sydd â’r gwaith o ethol olynydd i Bened XVI bellach wedi dod at ei gilydd, ac fe fydd y trafodaethau’n dechrau rhwng dydd Llun a dydd Mercher.
Cyhoeddodd Bened XVI ei fwriad i roi’r gorau i’r swydd ychydig wythnosau’n ôl, gan ddweud nad oedd e’n ddigon iach yn gorfforol i barhau â’i waith.
Bydd y cardinaliaid yn pleidleisio prynhawn yma ar ddyddiad yr etholiad.
Dydy’r broses o ethol Pab newydd erioed wedi cymryd mwy na phum niwrnod.
Does dim un ymgeisydd sy’n sefyll allan o blith y rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer y swydd.
Daw’r etholiad yng nghanol trafodaethau dwys a dyrys am sefyllfa’r eglwys Babyddol.
Mae’r cardinaliaid yn awyddus i gynnal yr etholiad cyn gynted â phosib er mwyn cyfyngu ar faint o wybodaeth a dadleuon sy’n cael eu gwneud yn gyhoeddus.