Mae Anna Friel wedi datgelu ei bod yn ystyried rhewi ei wyau, erbyn yr amser pan fydd Rhys Ifans yn teimlo’n barod i wynebu bod yn dad.
Mae’r ddau yn gariadon ers dwy flynedd, ac fe ddywedodd yr actores wrth y cylchgrawn Easy Living: “Rydw i eisiau plentyn arall, ond nid yw’n rhywbeth yr wyf am ruthro mewn iddo ar yr adeg yma yn fy mywyd gyda Rhys.
“Rydw i’n meddwl y byddai ef yn hoffi ei blentyn ei hun, ond nid wyf yn sicr ein bod yn barod ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd: “Rydw i’n 36. Mae fy nghyfeillion i gyd yn rhewi eu hwyau!”