Mae’r plismyn sy’n gyfrifol am ymosodiad ar ddyn yn Ne Affrica, sydd wedi ei weld ar draws y byd, wedi dweud iddo eu sarhau a phwyntio gwn atyn nhw.
Bu farw Mido Macia, 27, yn y ddalfa, wedi iddo gael ei glymu i du ôl fan heddlu, a’i lusgo i lawr stryd yn Ne Affrica. Cafodd y digwyddiad ei recordio, ac ers hynny mae wedi brawychu cynulleidfaoedd dros y byd.
Heddiw, yn Llys Ynadon Benoni, dywedodd un heddwas, Thamsanqa Ncema, 35, bod Macia wedi ei sarhau, cyn pwyntio gwn ato. Dywedodd bod ffrae wedi digwydd, a chafodd Macia ei arestio a’i gludo i orsaf heddlu yn Daveyton.
Yn y datganiad i’r llys, dywedodd Ncema ei fod wedi synnu pan glywodd i’r dyn farw, gan nad oedd wedi cwyno am unrhyw anafiadau.
Bu farw Macia o anafiadau i’w ben, a gwaedu mewnol.
Roedd torf wedi casglu y tu allan i’r llys heddiw, i brotestio na ddylai’r plismyn gael eu rhyddhau ar fechnïaeth. Cafodd 8 eu harestio yn dilyn y digwyddiad, ac mae adroddiadau bod nawfed dyn wedi ei arestio heddiw.
Mae’r gwrandawiad yn parhau