Mae cyngor sir sydd wedi bod dan reolaeth Comisiynwyr arbennig oherwydd misdimanars cynghorwyr, yn agor enwebiadau ddydd Llun ar gyfer yr etholiadau cyntaf ers pum mlynedd.
Yn wahanol i weddill y wlad ni chafodd etholiadau eu cynnal ar Ynys Môn y llynedd, a hynny am fod Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen diwygio’r cyngor cyn ethol cynghorwyr newydd.
Bu Comisiynwyr yng ngofal Cyngor Ynys Môn ers mis Mawrth 2011 yn dilyn pryderon am ddemocratiaeth o fewn y sir, ac mae eu cyfnod nhw wrth y llyw yn debygol o ddod i ben ar ddiwedd mis Mai meddai Carl Sargeant, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol.
Bydd etholiadau ar gyfer cynghorau sir, tref a chymuned yn Ynys Môn yn cael eu cynnal ar yr 2il o Fai.
“Mae’r Cyngor Sir eisiau adnewyddu’r broses ddemocrataidd drwy annog mwy o bobol i sefyll ar gyfer eu hethol,” meddai’r Swyddog Canlyniadau Richard Parry Jones.
“Drwy annog pobol ifanc, merched ac unigolion o gefndiroedd gwahanol i sefyll fel ymgeiswyr, rydym yn gobeithio y bydd y Cyngor Sir nesaf yn adlewyrchu Ynys Môn a’i chymunedau.”
Bydd y cyfnod enwebu ymgeiswyr yn cau ar ddydd Gwener, Ebrill 5.