Mae cyn-Brif Weinidog Yr Eidal Silvio Berlusconi mewn ysbyty ym Milan yn cael triniaeth ar gyfer ei aflwydd yn ei lygad, ac wedi methu mynychu ei achos talu-am-ryw.
Yn ôl ei feddyg personol, Alberto Zangrillo, mae Berlusconi’n diodde’ o bilateral uveitis, sef aflwydd ar y llygid sy’n boenus.
Mae’n bosib y caiff Berlusconi ei gadw’n yr ysbyty dros nos.
Cafodd ei gyhuddo o dalu am ryw gyda merch ifanc o Foroco a defnyddio’i ddylanwad i guddio’r weithred.