Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi lansio ymgyrch newydd i ddarparu pecynnau dwyieithog sy’n hyrwyddo iechyd, iaith a chwarae i blant sâl, a rhoi cefnogaeth i’w teuluoedd.

Daeth y syniad wedi i nifer o staff yr ysbyty dderbyn hyfforddiant mewn iaith a chwarae, er mwyn datblygu adnoddau amrywiol ar y wardiau.  Nawr, mae’r pecynnau, sy’n cynnwys taflenni ffeithiau gan nifer o bartneriaid, a llyfr i blant ym mhob un, yn cael eu harddangos ar y wardiau, a’u darparu i deuluoedd.

Roedd gweithwyr cymorth gofal iechyd, gwirfoddolwyr dros iechyd ac arbenigwyr chwarae’r ysbyty yn rhan o’r ymgyrch, gan greu 100 o becynnau i deuluoedd.

Proses fuddiol

Daeth arian ar gyfer adnoddau o raglenni teuluoedd, a dywedodd Prif Nyrs ward Cilgerran, Janet Milward, bod y broses wedi bod yn fuddiol iawn.

“Rydym wrth ein boddau bod yr hyfforddiant yma yn cael ei roi ar waith ar y ward, a hefyd ein bod wedi gallu cynhyrchu pecynnau i deuluoedd eu defnyddio.  Gobeithiwn y bydd y pecynnau’n helpu i gefnogi teuluoedd plant sâl a’r plant eu hunain.”

Cyfrannodd dros 15 o bartneriaid amrywiol eu taflenni ffeithiau eu hunain, gan gynnwys Menter Gorllewin Sir Gâr a Chynllun Cyfeirio Sir Gaerfyrddin.  Roedden nhw hefyd yn rhan o’r broses o roi’r pecynnau at ei gilydd.

Erbyn hyn mae logos cyfranogwyr a phartneriaid wedi’u gosod yn strategol o amgylch y ward er mwyn i gleifion ac ymwelwyr eu gweld.

Bydd teuluoedd yn gallu gweld cynnwys pob pecyn sydd wedi’u harddangos mewn ystafell y rhieni, a byddant hefyd yn gallu gwneud cais am becyn iddyn nhw eu hunain gan aelod staff.