Mae cwmni Western Carbons wedi ymateb i bryderon protestwyr yn erbyn cynlluniau i gloddio am lo caled.

Dywedodd mudiad o’r enw TEGWCH, sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau, eu bod nhw’n ofni ‘Aberfan’ arall.

Bwriad y cwmni yw chwilio am lo caled ar Fynydd Allt y Grug uwchben Godre’rgraig.

Eisoes, mae 322 o lythyron wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn mynegi pryderon.

Cwmni o’r enw Western Carbons o Dycroes, Rhydaman, sy’n gwneud y cais i chwilio am lo caled ar gyfer cynnyrch ffiltro dŵr.

Maen nhw’n pwysleisio mai dim ond cais ar gyfer archwilio yw hwn ond maen nhw’n hyderus fod digon o lo yno i ddiogelu 15 swydd a chreu rhwng 3 a 5 arall.

Ond, yn ôl TEGWCH, dyw’r mynydd ddim yn ddiogel – fe fu tirlithriad ar ran ohono y llynedd ac roedd adroddiad yn 1990 wedi dweud na ddylai rhagor o gloddio ddigwydd yno.

Ofni Aberfan arall

Maen nhw’n poeni y gallai tirlithriad fygwth Ysgol Godre’r Graig lle mae 100 o blant.

“Bydd ffrwydron yn cael eu defnyddio er mwyn casglu’r glo o’r mynydd sydd yn agos i hen weithfeydd glo llawn dŵr a gallai’r cyrsiau dŵr yma wagio dros bentref Godre’r Graig gan achosi tirlithriadau pellach.

“Mae ysgol gynradd Godre’r Graig yng nghysgod y gwaith glo ac mae’r rhieni yn gofidio’n arw y gallai trychineb arall fel Aberfan ddigwydd.”

‘Towlu’r tywel i mewn’

Wrth ymateb i bryderon y protestwyr, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Western Carbons eu bod nhw’n “barod i dowlu’r tywel i mewn”.

“Mae shwd gymaint o gwympo ma’s wedi bod, ry’n ni’n barod i dowlu’r tywel i mewn. Mae’n ffys am ddim byd. Nimby-ism yw’r peth.

“Rwy wedi gwario £73,000 mewn dwy flynedd yn barod ond dyw’r bobol jyst ddim mo’yn i ni fod ’ma.

“Ry’n ni lan rhwng Cwmllynfell a Chwmtwrch, yr ochor draw i Ystalyfera, ond so nhw’n mo’yn e’n agos iddyn nhw. I ddweud y gwir, ry’n ni wedi danto.”