Chris Huhne
Fe fydd y cyn-Aelod Seneddol Chris Huhne a’i gyn-wraig, Vicky Pryce yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Southwark ddydd Llun.

Mae’r ddau wedi eu canfod yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd y barnwr wrth y ddau bod cyfnod yn y carchar o’u blaenau.

Cafwyd Pryce yn euog o dderbyn pwyntiau ar ei thrwydded yrru ar ran ei gŵr ddegawd yn ôl, wedi iddo gael ei ddal yn gor-yrru.

Plediodd Huhne yn euog i’r cyhuddiad, ond honnodd Pryce fod ei chyn-ŵr wedi ei gorfodi i dderbyn y pwyntiau.

Gallen nhw wynebu hyd at flwyddyn yn y carchar, er bod modd eu carcharu am oes am gyflawni’r drosedd.