Mae dyfodol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ansicr, wedi iddi ddod i’r amlwg nad oes nawdd pendant i’r corff y tu hwnt i fis Ebrill.

Mewn llythyr at aelodau’r corff, dywedodd y cadeirydd, Berwyn Prys Jones y gallai’r holl staff gael eu diswyddo.

Eisoes mae arholiadau aelodaeth y Gymdeithas, oedd i fod i gael eu cynnal ymhen mis, wedi cael eu gohirio.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi dweud wrth y Gymdeithas yr hoffai iddyn nhw reoleiddio’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.

Ond mewn cyfarfod arall, rhoddodd y Comisiynydd lythyr i’r Gymdeithas yn dweud ei bod hi wedi dweud mewn cyfarfod blaenorol ei bod hi’n amau a fyddai grant ar gael o 2016 ymlaen.

Mae cynrychiolwyr o’r Gymdeithas oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf hwnnw’n bendant eu barn na ddywedodd Meri Huws wrthyn nhw am y sefyllfa ariannol a’i bwriad i beidio rhoi’r grant.

Y llythyr

Yn y llythyr, dywed Berwyn Prys Jones: “Mae’r tri ohonom a oedd yn cynrychioli’r Gymdeithas yn y cyfarfod hwnnw yn gwbl bendant na ddywedwyd hynny wrthym.

“Yn wir, nid awgrymwyd bod y Comisiynydd yn dymuno symud at sefyllfa o’r fath yn yr un o’r cyfarfodydd a gawsom nac mewn unrhyw ohebiaeth cyn llythyr 20 Chwefror 2013.

“Heddiw (6 Mawrth 2013) yr ydym wedi anfon at y Comisiynydd bapur sy’n rhestru’r materion hynny.

“Ynddo, nodwyd hefyd ein pryderon ynglŷn â’r sefyllfa a wynebwn a’r goblygiadau difrifol o ran dyfodol y Gymdeithas a’r effaith bosib ar y proffesiwn/diwydiant cyfieithu.

“Cynigiwyd ffordd ymlaen i ddatrys y sefyllfa yn y tymor byr trwy ofyn i’r Comisiynydd roi’r un swm o arian i’r Gymdeithas yn 2013-14 ag a roddwyd yn 2012-13 ac i gynnal trafodaeth agored, synhwyrol a thryloyw ynghylch rheoleiddio’r proffesiwn/diwydiant cyfieithu, gwireddu amcanion ‘Iaith fyw: iaith byw’ ynghylch cyfieithu, a chytuno ar gynllun gweithredu.”