Mae plaid yr SNP wedi colli sedd arall mewn etholiad cyngor yn Yr Alban.
Collon nhw sedd i’r ymgeisydd annibynnol John Cowe yn ardal Moray yn yr is-etholiad diweddaraf.
Hwn oedd y pumed etholiad yn y wlad ers i’r SNP gyhoeddi’r cynlluniau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn 2014.
Mae’r SNP wedi colli gafael ym mhob un o’r pump etholiad.