Karachi
Mae mwslemiaid Shiite ym Mhacistan wedi mynnu diogelwch gan y  llywodraeth ar ôl ton o drais sydd wedi eu targedu.

Daw’r galwad ddiwrnod ar ôl i fom enfawr yn ninas Karachi ladd 45 o bobol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i bobol adael mosg yn y ddinas, ac mae’n tanlinellu y bygythiad cynyddol mae Shiites Pacistanaidd yn eu hwynebu wrth i grwpiau Sunni milwriaethus eu targedu mewn ymosodiadau.

Fe gafodd o leia’ 146 o bobol hefyd eu hanafu yn y ffrwydrad – ac mae 32 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Gwasanaeth yml-ffordd

Mae miloedd o bobl wedi ymgynyll ar ymyl ffordd fawr yn Karachi ar gyfer gwasanaeth angladd i 15 o fwslimiaid Shiite gafodd eu lladd yn yr ymosodiad. Mae’r dorf yn galw ar y llywodraeth i gymryd camau yn erbyn grwpiau milwriaethus sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau.

Dyma’r trydydd ymosodiad o’r fath yn erbyn Shiites eleni. Mae Lashkar-e-Jhangvi, grŵp milwriaethus Sunni sy’n adnabyddus am eu casineb o fwslimiaid Shiite, wedi derbyn cyfrifoldeb dros ddau ohonyn nhw.

Roedd y llynedd yn un o’r blynyddoedd mwya’ gwaedlyd i fwslemiaid Shiites yn hanes Pacistan. Fe gafodd mwy na 400 o fwslemiaid Shiite eu lladd mewn ymosodiadau ar hyd a lled y wlad y llynedd.

Ond fe allai eleni fod hyd yn oed yn waeth, gyda bron i 250 o Shiites wedi eu lladd eisoes mewn tri ymosodiad.