Mae’r BBC wedi lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i gyflwynydd newydd ar gyfer eu rhaglen boblogaidd, Blue Peter.

Fe fydd y ddau ddigrifwr, Dick a Dom yn chwilio am yr ymgeisydd gorau trwy roi cyfres o heriau iddyn nhw er mwyn cael y cyfle i ymuno â Helen Skelton a Barney Harwood ar y rhaglen.
Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan gynulleidfa’r rhaglen, wedi i gystadleuaeth ‘So you think you can be a Blue Peter presenter’ gael ei lansio yn ystod yr haf eleni.

Hanes y rhaglen

Fe gafodd y rhaglen blant ei darlledu am y tro cynta’ yn 1958, ac mae rhestr hir o gyflwynwyr ganddi, yn cynnwys John Noakes, Valerie Singleton a Janet Ellis.

Dywedodd rheolwr CBBC, Cheryl Taylor: “Mae gweithio ar Blue Peter yn freuddwyd o swydd i unrhyw un sy’n dymuno bod yn gyflwynydd, ac fe fydd ein proses o chwilio am wyneb newydd i ymuno â Helen a Barney yn creu lefel uchel o gyffro ar gyfer gwylwyr CBBC.”