Nicola Edgington (Llun Heddlu Metropolitan Llundain)
Mae dynes a laddodd berson dieithr ar y stryd wedi cael ei charcharu am o leia’ 37 mlynedd heddiw.

Roedd Nicola Edgington hefyd wedi lladd ei mam chwe blynedd yn gynharach ond cafodd ei rhyddhau i fyw yn y gymuned.

Cafwyd Nicola Edington yn euog fis diwethaf o lofruddio Sally Hodkin, 58, a cheisio llofruddio Kerry Clark, 22.

Dieithriaid

Roedd y ddwy ddynes yn ddieithriaid ac ar eu ffordd i’r gwaith yn Bexleyheath, de-ddwyrain Llundain, ym mis Hydref 2011 pan ymosododd Nicola Edgington arnynt â chyllell.

Ychydig cyn hynny, roedd Nicola Edgington wedi cerdded allan o uned iechyd meddwl lle roedd yr heddlu mynd a hi ar ôl i’w iechyd meddwl ddirywio.

Carcharwyd hi am fywyd gyda isafswm o 37 mlynedd am lofruddiaeth a cafodd ddedfryd gydamserol o fywyd gyda isafswm o 20 mlynedd am geisio llofruddio.