Y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies
Mae cynrychiolwyr o’r diwydiant bwyd wedi teithio i Japan i hyrwyddo cynnyrch Cymreig.

Bydd arddangosfa Foodex yn cychwyn yn ninas Tokyo yfory ac yn parhau tan ddydd Gwener, lle mae disgwyl i 23,000 o arddangoswyr o dros 70 o wledydd ymgasglu.

Gallai’r digwyddiad ddenu hyd at 75,000 o ymwelwyr.

Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio y bydd yr arddangosfa’n gyfle i feithrin cysylltiadau byd-eang er mwyn denu buddsoddwyr ar gyfer y diwydiant bwyd. Mae Japan yn cael ei hystyried yn un o’r buddsoddwyr mwyaf yn y diwydiant bwyd.

Fel rhan o’r arddangosfa, fe fydd gweithdai ar reoliadau bwyd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchu bwyd.

‘Hyrwyddo enw da Cymru’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd a Pysgodfeydd, Alun Davies AC: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant bwyd yng Nghymru gan hyrwyddo’n rhyngwladol yr enw da sydd gan Gymru am gynnyrch o safon.

“Drwy arddangos cynnyrch o Gymru, rydym yn sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn cael cyfle i ddatblygu marchnadoedd newydd dramor.

“Hefyd, mae rhoi cyngor i gwmnïau o dramor ar fuddsoddi yn y wlad hon yn hanfodol er mwyn eu denu i sefydlu eu gwaith cynhyrchu yng Nghymru.

“Mae canolbwyntio ar y ddau beth hyn yn allweddol i greu swyddi a sicrhau twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru mewn cyfnod o gyni economaidd .”