Map yn dangos lleoliad Mali yng ngorllewin Affrica (Varidon CCA3.0)
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague wedi teithio i Mali, i gwrdd ag arweinwyr y wlad ansefydlog yng ngorllewin Affrica.

Bydd William Hague yn trafod y rhyfela gydag Arlywydd Mali, Dioncounda Traore, a’r Prif Weinidog, Django Cissoko, a bydd hefyd yn cwrdd â rhai o’r milwyr Prydeinig sydd yn y wlad i gadw heddwch.

Mae milwyr o Ffrainc wedi bod ym Mali ers y mis diwethaf er mwyn ymladd gwrthryfelwyr yng ngogledd y wlad, ac mae Ffrainc yn honni iddyn nhw ladd un o arweinwyr Al-Qaida yn Affrica, Abou Zeid yn y gwrthdaro.

Mae Prydain wedi cyfrannu 40 o ymgynghorwyr milwrol a 200 o filwyr at fyddin y Cenhedloedd Unedig, sy’n ceisio sefydlogi’r wlad unwaith eto.

‘Ymrwymiad’

Yn siarad ym mhrifddinas Mali, Bamako, dywedodd William Hague heddiw:

“Mae’r ymweliad yma yn dangos ymrwymiad Prydain i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gefnogi Mali a gwledydd yr ardal i wrthwynebu terfysgaeth a sicrhau diogelwch yma.”

Mae Ffrainc wedi dweud eu bod yn ymestyn eu hymgyrch milwrol yn Mali hyd at fis Gorffennaf, oherwydd ymladd cryf gan wrthryfelwyr.