Ym Meifod y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ymhen dwy flynedd yn 2015.

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod yr ardal wedi bod yn awyddus i wahodd yr Eisteddfod yn ôl yno ers tro.

“Braf yw cyhoeddi ein bod yn dychwelyd i Faldwyn, i Feifod, ac i gaeau Mathrafal, cartref yr Eisteddfod yn 2003, ymhen dwy flynedd,” meddai.

“Bu hon yn wythnos lwyddiannus iawn i’r Brifwyl, gyda chefnogaeth o bob cwr o’r dalgylch, a’n gobaith drwy gychwyn mor fuan ar y gwaith ar gyfer 2015 yw ceisio efelychu hyn eto yn yr ardal.”

Cyfarfod cyhoeddus

Y cam cyntaf yn y gwaith o baratoi fydd cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yn yr Institiwt, Llanfair Caereinion am 19.30, nos Lun 15 Ebrill.

Bwriad y cyfarfod fydd egluro rhywfaint am ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal o 31 Gorffennaf – 8 Awst 2015, ac i ddechrau ar y paratoadau a’r ethol pwyllgorau a fydd yn digwydd yn fuan ar ôl y cyfarfod cychwynnol.

“Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i gychwyn ar y gwaith ac i annog pobl o bob rhan o Faldwyn i fod yn rhan o’r trefniadau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf,” meddai Elfed Roberts.

“ Mae’r Eisteddfod yn brosiect cymunedol enfawr gydag wythnos y Brifwyl yn binacl ar y cyfan, a rydym yn annog pobl o bob oed i ddod atom i Lanfair Caereinion i glywed mwy ac i fod yn rhan o’r tîm o wirfoddolwyr a fydd yn gweithio’n ddygn i sicrhau llwyddiant Eisteddfod 2015.”