Mae Heddlu’r De wedi enwi dyn 20 oed gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ym Mhenydarren ger Merthyr Tudful fore Gwener.
Cafodd Joshua Jordan Williams ei ladd pan drawodd ei gar MGF yn erbyn coeden ar Stryd Fawr y dref am 3.40am.
Mae dyn 22 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu ei fywyd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
Teyrngedau
Dywedodd ei fam, Julie: “Roedd Josh yn caru bywyd ac roedd e’n berson cariadus a hael, a fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu unrhyw un. Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan y llu o gariad tuag at Josh o’r ardal leol.”
Ychwanegodd ei dad, Michael, ei fod “wedi tristhau’n fawr” o golli ei fab.
Pan oedd e’n 10 oed, meddai’r teulu, achubodd e ferch wyth oed oedd wedi dioddef anafiadau i’w phen wedi iddi gwympo.