Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths
Mae ardaloedd Cwm Tawe, Fairbourne yng Ngwynedd a Chorwen ymysg y lleoedd a fydd yn elwa’n fuan o gynlluniau gwarchod rhag llifogydd.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru’n gwario £47 miliwn ar lifogydd a rheoli risg erydu arfordirol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Gwnaeth John Griffiths y cyhoeddiad mewn uwchgynhadledd ar lifogydd sy’n cael ei gynnal dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Cafodd y gynhadledd ei drefnu er mwyn dod â’r holl asiantaethau allweddol at ei gilydd i ystyried beth yw’r ffordd orau i Gymru ymateb i’r bygythiad gan lifogydd.

Bydd y ffigwr o £47 miliwn yn cynnwys £4 miliwn gan Gynllun Seilwaith Cymru a dros £6m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Yr ardaloedd a fydd yn elwa yw:

  • Cwm Tawe – £ 6.7 miliwn ar gyfer cynllun i ddiogelu 290 o fusnesau a chartrefi.
  • Ystradgynlais – £ 2.5 miliwn ar gyfer cynllun i ddiogelu 244 o gartrefi a busnesau
  • Fairbourne – £ 5,800,000 ar gyfer cynllun i ddiogelu 420 o gartrefi a busnesau
  • Pontarddulais – £ 3 miliwn ar gyfer cynllun i ddiogelu 246 o gartrefi a busnesau
  • Coldbrook – £ 1 miliwn ar gyfer cynllun i ddiogelu 104 o adeiladau.
  • Corwen – £ 2.1 miliwn ar gyfer cynllun i ddiogelu oddeutu 100 o gartrefi.

‘Buddsoddi parhaus’

Dywedodd y Gweinidog: “Mae buddsoddi parhaus mewn llifogydd ac erydu arfordirol yn rhan hanfodol o’n gwaith i reoli perygl llifogydd ac er gwaethaf y gostyngiad yn ein cyllideb gyffredinol gan Lywodraeth y DU mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei lefel o fuddsoddiad yn y maes hwn.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n targedu ein cyllid yn effeithiol ar gyfer amddiffyniad llifogydd. Dyna pam bod fy strategaeth genedlaethol yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu polisi ariannu cenedlaethol yn ogystal â dull ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiad.

“Mae grŵp wedi ei sefydlu i ddatblygu’r gwaith hwn a phan fydd wedi ei gwblhau bydd y Rhaglen Buddsoddi Genedlaethol yn galluogi ardaloedd o Gymru i gael eu rhestru yn ôl risg o lifogydd ac erydiad arfordirol.”

“Bydd hyn yn ein helpu i ganolbwyntio buddsoddiad yn y cymunedau sydd mewn perygl ac i ddefnyddio’r dulliau mwyaf priodol i ddarparu’r amddiffyniad gorau.”