Cardinal Keith O'Brien (llun PA)
Fe fydd y Fatican yn cynnal ymchwiliad i ymddygiad amhriodol y Cardinal Keith O’Brien, ac nid yw bellach yn gwadu unrhyw honiadau yn ei erbyn.

Roedd wedi cyfaddef ac ymddiheuro mewn datganiad ddoe: “Rwyf am gymryd y cyfle hwn i gyfaddef y bu yna adegau pan fod fy ymddygiad rhywiol wedi gostwng yn is na’r safonau sy’n ddisgwyliedig gen i fel offeiriad, archesgob a chardinal.”

Fe ddaeth yr honiadau i’r wyneb wythnos yn ôl, wedi i dri offeiriad ac un cyn-offeiriad ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol ers y 1980au.

Fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w rôl fel Archesgob St Andrews a Chaeredin yn dilyn y sgandal. Roedd yn archesgob ers 1985, ac yn gardinal ers 2003.

Mae’r honiadau wedi cael eu cyflwyno i’r Fatican.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Wasg Catholigion yr Alban bod “disgwyl ymchwiliad ac i’r mater ddod i ben”.

Ond fydd yr ymchwiliad ddim yn dechrau tan ar ôl i’r Pab newydd gael ei ethol, yn dilyn penderfyniad y Pab Bened XVI i roi’r gorau iddi.