Mae disgwyl i’r gwaith gwerth biliynau o bunnau o adeiladu rheilffordd danddaearol newydd ar draws Llundain gynnal hyd at 80 o swyddi yng Nghymru.

Cwmni Express Reinforcements yng Nghastell-nedd yw un o’r cwmnïau fydd yn gweithio ar y twnel rhwng sioredd Berkshire ac Essex.

Mae’r cwmni yn creu coetsys dur i gynnal concrit, ac mae disgwyl i’r safle orfod ehangu er mwyn ateb galw’r cytundeb.

Mewn cyhoeddiad heddiw, dywed cyfarwyddwyr Crossrail, sy’n gyfrifol am y gwaith o adeiladu’r rheilffordd, fod 43% o’r cytundebau wedi mynd i gwmnïau y tu allan i Lundain, a bod tri o bob pump busnes yn fentrau bach neu ganolig.

Mae disgwyl i’r twnel gwerth £14.8 biliwn agor yn 2018.

Dywedodd prif weithredwr Crossrail, Andrew Wolstenholme: “Nid yn unig Llundain a’r de ddwyrain fydd yn elwa o Crossrail – mae manteision economaidd y prosiect i’w teimlo ymhell y tu hwnt i’r M25.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable: “Crossrail yw’r math o brosiect a fydd yn helpu’r DU i adeiladu economi gryfach drwy wella ein hisadeiledd a chreu swyddi ledled y wlad.”