Mae'r Lasynys ar gyrion Harlech yng Ngwynedd
Mae cynlluniau ar droed i adeiladu canolfan ddehongli bwrpasol yn nhŷ hynafol Y Lasynys ger Harlech.
Cafodd y cynlluniau gwerth £600,000 eu cyhoeddi ar gyfer yr adeilad newydd mewn cyfarfod yn Neuadd Bentref Talsarnau ddydd Gwyl Dewi.
Y Lasynys oedd man geni Ellis Wynne, clerigwr ac awdur un o’r darnau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn ein llenyddiaeth. Cafodd ‘Gweledigaethau y Bardd Cwsc’ ei gyhoeddi yn 1703 ac mae’n cael ei ystyried yn un o glasuron rhyddiaith Cymraeg.
Yn ôl Cadeirydd Cyfeillion Ellis Wynne, Gerallt Rhun, derbynwyd arian sylweddol ugain mlynedd yn ôl er mwyn adfer y tŷ hynafol, a adeiladwyd yn wreiddiol yn yr 17ed ganrif, i’w hen ogoniant.
Ers hynny mae miloedd o ymwelwyr wedi ymweld â’r tŷ ac mae dros 800 o bobol wedi ymweld â’r Lasynys neu wedi ymwneud a rhai o weithgareddau Cyfeillion Ellis Wynne yn y flwyddyn ddiwethaf.
Cynnal diddordeb
“Y bwriad trwy ddatblygu y ganolfan dehongli fydd cynnig nifer o gyflwyniadau ar fywyd a gwaith Ellis Wynne, hanes Y Lasynys a threftadaeth diwylliannol, diwydiannol, chwedlonol ag amgylcheddol ardal Ardudwy,” meddai Gerallt Rhun.
“Gobeithiwn hefyd datblygu y ganolfan ar gyfer y byd addysg gan dargedu sefydliadau addysgiadol lleol ac o thu hwnt. Byddem yn trefnu nifer o wyliau bychan gan gynnwys rhai llenyddol, gwerin ag eraill tebyg.”
Mae’r cynllun wedi derbyn sel bendith awdurdod cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri a CADW ac mae Cyfeillion Ellis Wynne yn bwriadu sicrhau’r arian dydd ei angen ac adeiladu’r ganolfan erbyn haf 2014.