(Llun o wefan Apple)
Llwyddodd bachgen 5 mlwydd oed i wario cannoedd o bunnau mewn llai na 10 munud wythnos diwethaf, wrth chwarae ar iPad ei rieni.
Roedd Danny Kitchen o Fryste yn chwarae gêm ar y teclyn, gyda chaniatâd ei rieni. Wrth chwarae, prynodd nifer o ychwanegion i’r gêm drwy gamgymeriad, a gwario £1,710.43 mewn munudau.
Pan welodd ei fam, Sharon, y derbynebau’r diwrnod wedyn, deallodd bod rhywbeth mawr wedi mynd o’i le, wrth iddi wynebu bil o gannoedd o bunnau.
Mae Apple, y cwmni sy’n gwneud yr iPad ac iTunes – y siop ar-lein lle’r oedd Danny yn gwario – wedi cytuno i ddileu y taliadau yn erbyn cyfrif y teulu, ond maen nhw’n rhybuddio bod rhaid i rieni gymryd gofal wrth adael i blant chwarae gyda’u teclynnau.
Dywedodd Sharon Kitchen bod ei mab wedi deall ei fod wedi cam-fihafio, ac wedi ymddiheuro am y digwyddiad.