Ladera Ranch
Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd mewn achos arall o saethu yn yr Unol Daleithiau.

Saethodd dyn at dri o bobol mewn tref yng Nghaliffornia a’u lladd cyn ei ladd ei hun.

Cafodd yr heddlu eu galw yn gynnar yn y bore yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi cael ei saethu nifer o weithiau mewn tŷ yn Ladera Ranch.

Cafodd ceir eu dwyn yn ystod y digwyddiad yn ardaloedd Tustin a Santa Ana a saethodd y dyn ei hun ar y ffordd yn Tustin.

Mae amgylchiadau’r digwyddiad yn aneglur ar hyn o bryd, a dydy’r heddlu ddim yn gwybod a oes yna gysylltiad rhwng y bobol a fu farw.

Dyma’r digwyddiad diweddara’ mewn cyfres o achosion saethu, wrth i’r Arlywydd Obama alw am reolau llymach ar ynnau.