David Hanson - y llefarydd ar yr heddlu
Mae’r llefarydd Llafur ar yr heddlu yn senedd Llundain wedi awgrymu bod angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddal eu dŵr tros ddatganoli plismona.
Fe ddywedodd David Hanson wrth Golwg360 bod angen ystyried llawer rhagor cyn gweithredu ar alwad Carwyn Jones ddoe.
Roedd y Prif Weinidog wedi galw am ddatganoli grymoedd tros yr heddlu ac, yn y pen draw, tros system y llysoedd hefyd.
Angen trafod
Dywedodd Aelod Seneddol Delyn bod angen trafodaethau pellach cyn gwneud penderfyniad terfynol.
“Dydw i ddim yn fodlon cymeradwy na gwrthod unrhyw argymhellion ar hyn o bryd. Mae tipyn o drafod i’w wneud eto,” meddai.
“Mae barn Llywodraeth Cymru yn ddigon dilys, ond mae angen ystyried nifer o faterion. Yn sicr, does dim penderfyniadau i’w gwneud ar hyn o bryd.
Roedd yr ystyriaethau’n cynnwys gwrth-derfysgaeth a system y llysoedd.
Barn Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu yr hoffai weld y system gyfiawnder yng Nghymru’n cael ei datganoli.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Dylid ond gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yng Nghymru.
“Yr heddlu a chyfiawnder troseddol yw’r unig wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli i Gymru. Mae’r status quo wedi dod yn anodd iawn ei gyfiawnhau.”