Yr Arlywydd John F Kennedy
Mae casgliad o eiddo cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, John F Kennedy wedi cael ei werthu am bron i $2 filiwn (£1.3 miliwn) mewn ocsiwn.

Cafodd ei siaced ledr Air Force One ei gwerthu am $570,000 (£370,000).

Roedd disgwyl iddi gael ei gwerthu am $20,000-$40,000.

Ymhlith y nwyddau arall a gafodd eu gwerthu roedd cyfres o luniau, dogfennau, anrhegion ac eitemau eraill.

Cafodd yr ocsiwn ei chynnal yn Amesbury dan ofal John McInnis, ac roedd yr eitemau wedi bod yn eiddo i David Powers, cyfaill i JFK fu farw yn 1998.

Roedd 350 o bobol yn bresennol yn yr ocsiwn, gyda 1,000 yn rhagor yn cynnig bid ar y we.

Talodd Rich Travaglione o Nantucket $525 (£340) am lun o’r cyn-Arlywydd  a gafodd ei dynnu yn 1946.

Fe ddywedodd fod y llun yn ei atgoffa o’r adeg pan gyfarfu ei dad â JFK yn ninas Boston.