Logo Banc Lloyds
Mae cwmni banc Lloyds wedi cael dirwy o £4.3 miliwn ar ôl i gwsmeriaid glywed bod eu taliadau yswiriant diogelwch taliadau (PPI) wedi cael eu rhewi.
Doedd y cwsmeriaid ddim wedi cael eu had-dalu o fewn 28 diwrnod wedi iddyn nhw dderbyn llythyr fel sy’n ofynnol, ac roedd yn rhaid i 9,000 o bobol aros mwy na chwe mis cyn derbyn iawndal.
Penderfynodd yr Awdurdod Safonau Cyllid fod Lloyds TSB, Lloyds TSB Yr Alban a Banc yr Alban i gyd yn euog o fethu â rhoi gwybod i’w cwsmeriaid.
Dywedodd yr Awdurdod Safonau Cyllid (FSA) fod Lloyds wedi methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig.
Cafodd 582,206 o lythyron eu hanfon at gwsmeriaid yn nodi y byddai Lloyd’s yn talu iawndal rhwng Mai 2011 a Mawrth 2012, ond chafodd chwarter o’r taliadau mo’u hanfon allan o fewn 28 diwrnod.
Roedd yn rhaid i 87,000 o gwsmeriaid aros mwy na 45 diwrnod, gyda 56,000 yn aros mwy na 60 diwrnod, 29,000 mwy na 90 diwrnod ac 8,800 mwy na chwe mis.
Daeth rhai o’r achosion i sylw’r banc yn dilyn cwynion gan gwsmeriaid a sylw’r cyfryngau.
Oedi cyn ymateb
Unwaith cafodd y banc wybod am y trafferthion, wnaethon nhw ddim ymateb yn gyflym er mwyn gallu ad-dalu cwsmeriaid na chynnig unrhyw esboniad, a chafodd y cwsmeriaid ddim gwybod chwaith pryd allen nhw ddisgwyl cael eu talu.
Ychwanegon nhw nad oedd Lloyd’s wedi cynllunio’n ddigonol ar ddechrau’r cynllun PPI ac nad oedd eu systemau’n gallu ymdopi gyda’r galw.
Cafodd y cwmni ei feirniadu hefyd am nad oedd staff wedi eu hyfforddi’n ddigonol i weithredu’r system yn y modd mwyaf effeithiol, a doedden nhw ddim wedi gallu monitro’r taliadau.
Ymddiheurodd Lloyd’s wrth gwsmeriaid ar y pryd, gan ddweud nad oedden nhw wedi rhagweld maint y trafferthion.
“Rydym yn cydnabod fod hyn wedi arwain at fethu ad-dalu rhai cwsmeriaid mewn pryd ac rydym yn ymddiheuro wrth y cwsmeriaid hynny y cafodd eu taliadau eu hatal dros dro.
“Mae’n bwysig nodi fod bron bob cwsmer yr oedd angen eu had-dalu yn ystod y cyfnod adolygu bellach wedi cael eu had-dalu’n llawn.”