Oscar Pistorius
Mae’r athletwr o Dde Affrica, Oscar Pistorius, yn ôl yn y llys y bore i ofyn am gael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae e wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp, yn eu cartref ddydd San Ffolant.
Mae’r heddlu wedi dweud y byddan nhw’n gwrthwynebu ei gais am fechnïaeth gan honni bod yr athletwr anabl wedi bwriadu lladd y fodel 29 oed.
Pe bai’r llys yn ei ganfod yn euog o lofruddiaeth, gallai Pistorius, sy’n 26 oed, gael dedfryd o oes yn y carchar.
Straeon yn y wasg
Mae gwahanol straeon wedi bod yn y wasg a’r cyfryngau yn Ne Affrica – rhai’n dweud bod Pistorius wedi camgymryd ei gariad am leidr; eraill yn sôn am fat criced gwaedlyd.
Mae teulu Pistorius wedi addo brwydro yn erbyn y cyhuddiadau yn y “modd cryfaf posib” gan ddadlau mai damwain oedd y digwyddiad.
Mae mam Reeva Steenkamp wedi disgrifio’i merch fel “y person mwyaf hardd fu fyw”.