Jessops - un o'r cwmniau sydd newydd fethu
Mae mwy o siopau gwag yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain ac mae’r ganran wedi codi eto yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Mae dwy o ddinasoedd Cymru hefyd ymhlith y canolfannau siopa gwaetha’ trwy wledydd Prydain, gyda mwy na chwarter eu siopau’n wag.

Fe gafodd yr ystadegau eu casglu gan y Cwmni Data Lleol ar ôl edrych ar bron 300,000 o siopau a busnesau hamdden.

Er fod yna gwymp bach yn y canran o siopau gwag trwy wledydd Prydain, Llundain a dwy ranbarth arall yn Lloegr sy’n gyfrifol am hynny.

Cymru ar y gwaelod

  • Mae canran y siopau gwag yng Nghymru wedi codi o 17.3% yn 2011 i 18% eleni.
  • Dim ond 13.9% yw’r ffigwr ar draws Lloegr, er bod rhanbarthau yn y gogledd yn llawer gwaeth.
  • Casnewydd yw’r ail ganolfan waetha’ o blith trefi canolig eu maint – mae 29.8% o’r siopau’n wag yno.
  • Abertawe yw’r chweched gwaetha’ o blith y canolfannau mawr – mae 25.3% o’r siopau’n wag yno.

Y We’n bwysig

Yn ôl yr adroddiad, More Clicks, Less Bricks, mae gwerthu ar-lein yn dod yn bwysicach a phwysicach, gyda siopau’n cael eu defnyddio fwy a mwy yn ffenest i ddangos beth sydd ar gael.

Canol trefi a chanolfannau siopa traddodiadol sy’n diodde’ fwya’ ond mae llefydd gwag mewn llawr o ganolfannau ar gyrion trefi hefyd.