Mae rhai o Fyrddau Iechyd Cymru yn “afrealistig” wrth greu eu cynlluniau ariannol.
Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, mae rhai ohonyn nhw’n dechrau blwyddyn heb gynlluniau realistig i gadw’r cyfrifoldeb cyfreithiol i dalu’u ffordd.
Mae rhai Byrddau’n rhy uchelgeisiol a gobeithiol o ran eu proffwydoliaethau ariannol ac eraill yn sôn am arbedion ariannol, heb gynlluniau pendant gyflawni’r rheiny.
Argymhellion
Un o argymhellion yr adroddiad yw y dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod pob Bwrdd Iechyd yn creu cyllideb lawn er mwyn sicrhau eu bod nhw’n torri ar gostau ac yn llunio cynlluniau cadarn i arbed arian.
“Mae’r Pwyllgor yn pryderu ynghylch rhai o’r rhagolygon a welsom yn ystod ein hymchwiliad, sy’n ymddangos fel pe baent yn afrealistig ac yn rhy uchelgeisiol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon, Darren Millar.
“Ryden ni’n annog Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion o’r fath yn fanwl iawn, a chaniatáu ar yr un pryd i fyrddau iechyd fod yn hyblyg wrth ddefnyddio eu harian yn fwy effeithiol dros y blynyddoedd ariannol.”
‘Mwy o ryddid’
Mae’r Pwyllgor yn galw am newidiadau yn y rheolau, gan roi mwy o ryddid i’r Byrddau symud arian wrth gynllunio o flwyddyn i flwyddyn.
Ac, yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar iechyd, does dim posib cynnal yr arfer presennol o roi arian ar ddiwedd blwyddyn i achub y Byrddau.
Un o’r ffeithiau mwya’ syfrdanol yn yr adroddiad, yn ôl Aled Roberts, oedd fod rhai Byrddau’n cyfadde’ nad oedd ganddyn nhw gynlluniau i dalu’u ffordd yn 2012-13.
‘Angen cynlluniau cadarn’
“Flwyddyn ar ôl blwyddyn, ryden ni’n gweld yr un hen drefn, ond dyden ni ddim yn gweld y gwelliannau sydd eu hangen,” meddai Aled Roberts.
“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud yn siŵr fod cynlluniau cadarn yn eu lle, gan edrych hefyd ar gyfleoedd i edrych ar y diffyg hyblygrwydd o flwyddyn I flwyddyn
“Does dim syndod nad ydi Byrddau Iechyd yn talu’u ffordd a nhwthau’n gwybod ar ddiwedd blwyddyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn eu hachub.”